Enviro 365: Geirda

Disgrifiad o’r Cwmni

Mae Enviro365 yn cyflenwi gwasanaeth peirianyddol ymgynghorol sy’n cynnig cynlunio gwarchodol amgylcheddol gyda cyfarpar cefnogol. Ers ei sefydlu yn 2019, bu’r cwmni’n cynyddu ei wasanaeth peirianyddol, er bod profiad estynedig y cyfarwyddwyr yn deillio o’u chwarter canrif blaenorol mewn diwydiannau perthnasol. Yn bennaf, rhydd y cwmni ddulliau effeithiol a syml o ymdrin â, a monitro storio cyflenwadau sylweddol o danwydd olew ac adnoddau cynnwys, mewn modd sy’n warchodol o’r amgylchedd.

Manylion y Prosiect

  • Cwmni: Enviro 365
  • Partner CAFf: Prifysgol De Cymru, Prifysgol Aberystwyth
  • Lleoliad: Caerfyrddin

Mae bod yn gwmni newydd bychan yn y Sector Amgylcheddol yn eithaf heriol wrth geisio cyngor a chymorth i hybu cysyniadau cychwynnol. Fe ddefnyddiom y rhyngrwyd i ddod o hyd i ffynonellau ariannu a bu i Innovate UK ein rhoi mewn cysylltiad gyda CAFf. Arweiniodd hyn i gydweithrediad cynnar fu’n fuddiol ei fewnbwn syniadol a gallu technegol, ac i hybu ein cysyniadau cychwynnol i gyflwr a chymal prototeip ar gyfer ariannu pellach.

Bu i ni fwynhau y daith gyda dau ymchwilydd profiadol yn ogystal â Chydlynnydd prosiect, wedi dod atom, oll yn cynnig cyfraniad rhagweithredol i ddeall safbwynt a bwriad Enviro365. Gwnaethpwyd y trefniadau gweinyddol yn rhwydd a heb y math yma o gymorth academaidd, byddai’r prosiect wedi cael ei oedi yn ddi-ben-draw hyd nes y bydde digon o amser ac arian i’w ganiatau.

Y canlyniad i Enviro365 ydi y bydd y cymal nesaf o’n taith yn gyffrous, gyda ffrindiau newydd a phartneriaeth Prifysgol lwyddiannus, sy’n ychwanegu gwerth i hyn, a phrosiectau’r dyfodol.

Tony Powell (Rheolwr Gyfarwyddwr), Enviro 365

cyWelsh