Gweithio gyda ni

Mae’r Ganolfan Arbenigedd Ffotoneg (CAFf) yn gweithio gyda cwmniau yng Ngyhmru i wella, neu ddatblygu, cynnyrch neu brosesau er budd i’r busnesau. Partneriaeth ydyw o bedair o Brifysgolion Cymru, ac mae’n cael ei ariannu gan Swyddfa Ariannu Ewropeaidd Cymru. Cynlluniwyd CAFf fel ei bod yn rhoi rhwydd fynediad at adnoddau a mwynderau academaidd yn ddi-draul ar y cwmni.

" Ffotoneg yw technoleg golau. Mae'n hanfodol i'n bywyd bob dydd drwy dechnoleg megis ffonau clyfar, sgriniau, telathrebu a golau LED.

Ceir technoleg ffotoneg mewn ystod eang o sectorau diwydiannol, megis: gweithgynhyrchu, modurol, bwyd, gwyddorau bywyd ac ynni. "

About Us

CPE WGU logo
Prifysgol Glyndŵr Wrecsam – the lead partner for the project

As the lead partner for CPE, Wrexham Glyndŵr University’s team is based in the OpTIC Technology Centre in St Asaph. This facility is a hub for high-level opto-electronics technology and scientific innovation specialising in precision optical systems for aerospace and defence, space sciences, medical and astronomy markets.

Through CPE, businesses can have access to a range skilled expertise and state-art-facilities such as:

  • Thin film vacuum coating facility
  • Precision Optical Systems Design
  • Environmental testing chamber
  • Fibre Optic thermometry
  • Microwave technology, optimised system design, and processing of materials
  • Fabrication of Precision optical components
  • Opto-mechanical design and FE of Optical Systems assemblies
  • Metrology of complex optical surfaces
  • Spectroscopy
CPE Bangor logo
Prifysgol Bangor

Mae ganddi draddodiad hir o ragoriaeth academaidd a ffocws cryf ar brofiad myfyrwyr. Yn ôl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, mae Prifysgol Bangor ymhlith y 40 gorau yn y Deyrnas Unedig am ymchwil*. Roedd y Fframwaith yn cydnabod bod mwy na thri chwarter ymchwil Bangor naill ai'n arwain y ffordd yn fyd-eang neu'n rhagorol ar lefel ryngwladol, sy'n uwch na'r cyfartaledd ar gyfer prifysgolion y Deyrnas Unedig.

  • Peirianneg Fanwl â Laser
  • Systemau manwl ar raddfa fach iawn ar gyfer delweddu, patrymu a synhwyro gan ddefnyddio Nanosgop ac Uwchlens Bangor
  • Dylunio ac efelychu (Hidlydd gwrth-laser, THz, acwsteg, ac optegol)
  • Laserau lled-ddargludydd
  • Ffotoneg ficrodonfedd
CPE Aber logo
Prifysgol Aberystwyth

Bydd y brifysgol yn gweithio gyda chwmnïau gweithgynhyrchu gorllewin Cymru a'r Cymoedd drwy gyfnewid gwybodaeth ynglŷn â photensial meddalwedd i wella eu gallu i gystadlu, a bydd yn eu cefnogi i gyflawni manteision posibl drwy brosiectau ar y cyd.

  • Rhyngweithio Ymbelydredd â Mater
  • Haenau tenau, Arwynebau, Rhyngwynebau a Nanoddeunyddiau
  • Dadansoddi Arwynebau
  • Gwyddor Solar a Phlanedol
  • Offer Archwilio Planedol
  • Offer Optegol a Phelydr-X
  • HPC a Modelu Ymbelydredd
  • Prosesu Delwedd
CPE USW logo
Prifysgol De Cymru

Mae gan Brifysgol De Cymru dri champws ledled rhanbarth de Cymru: Pontypridd, Caerdydd a Chasnewydd. Mae Prifysgol De Cymru yn gweithio gyda phartneriaid diwydiannol ar draws nifer o wahanol sectorau i ddarparu ymchwil cydweithredol sy'n berthnasol ac yn darparu datrysiadau i heriau diwydiannol heddiw.

Yn arwain tîm CPE Prifysgol De Cymru mae'r Athro Nigel Copner, sydd hefyd yn gadeirydd y Ganolfan Ymchwil ac Arloesedd Di-wifr ac Optoelectroneg (WORIC), ac yn ei gyd-arwain mae Hefin Rowlands, Athro Rheoli Ansawdd. Mae'r tîm yn arbenigo mewn dylunio a gweithredu systemau optegol ar draws amrywiaeth o sectorau, megis gweithgynhyrchu, meddygol a gwyddorau bywyd. Ar ben hyn, gall eu harbenigedd mewn egwyddorion gweithgynhyrchu gefnogi busnesau sy'n awyddus i symleiddio eu prosesau.

Gweler isod meysydd penodol y gall y tîm helpu i gefnogi anghenion eich busnes:

  • LEDs: Goleuadau a goleuo
  • Dylunio, gweithredu a masnachu systemau laser (e.e. laserau cyweiriadwy, laserau pŵer uchel)
  • System fesur optegol - dylunio a gweithredu
  • Dylunio a modelu optegol
  • Prototeipio Systemau Optegol
  • Agweddau yn ymwneud â Rheoli Ansawdd a Pheirianneg Ansawdd
  • Datblygu proses gwella parhaus
  • Cymhwyso offer a thechnegau Ansawdd ar gyfer gwella proses a chynnyrch

Ein Partneriaid Diwydiant

Helpwch i dyfu'ch busnes heddiw ac ymgeisiwch nawr
neu siaradwch ag un o'r tîm
Ffoniwch ni ar 01745 535 232
neu anfonwch e-bost at info@cpe-wales.org

A oes angen cefnogaeth dechnegol ar eich busnes?
Mae ein technoleg wedi'i theilwra ar gyfer anghenion eich busnes!

cyWelsh