Mae’r Ganolfan Arbenigedd Ffotoneg (CAFf) yn gweithio gyda cwmniau yng Ngyhmru i wella, neu ddatblygu, cynnyrch neu brosesau er budd i’r busnesau. Partneriaeth ydyw o bedair o Brifysgolion Cymru, ac mae’n cael ei ariannu gan Swyddfa Ariannu Ewropeaidd Cymru. Cynlluniwyd CAFf fel ei bod yn rhoi rhwydd fynediad at adnoddau a mwynderau academaidd yn ddi-draul ar y cwmni.
Gweithio gyda ni
" Ffotoneg yw technoleg golau. Mae'n hanfodol i'n bywyd bob dydd drwy dechnoleg megis ffonau clyfar, sgriniau, telathrebu a golau LED.
Ceir technoleg ffotoneg mewn ystod eang o sectorau diwydiannol, megis: gweithgynhyrchu, modurol, bwyd, gwyddorau bywyd ac ynni. "
Sefydlu prosiect cydweithredol CAFf: Canllaw Cam Wrth Gam
Bydd ein tîm Datblygu Busnes yn eich arwain drwy gamau amrywiol y broses CAFf i sefydlu prosiect cydweithredol. Fel rheol mae'r broses hon yn cymryd rhai wythnosau, yn bennaf o ganlyniad i gydlynu cyfarfodydd, cytuno ar gynllun prosiect, ac amser i ofyn am lofnodwyr a awdurdodir o Gytundebau i Beidio â Datgelu a Chytundebau o fewn cwmni. Ar gais, rydym wedi cwblhau'r broses hon mewn wythnos
Meini Prawf Cymhwystra
- Cyfeiriad busnes yn rhanbarth gorllewin Cymru a'r Cymoedd.
- Prosiect yn canolbwyntio ar gynnyrch neu broses a fydd yn effeithio ar dwf a datblygiad busnes.
- Dim risg o ddadleoli.
Dadlwythwch ein llyfryn i gael mwy o wybodaeth:
Ein Partneriaid Diwydiant
Cynaliadwyedd
Am ein hymrwymiad i gynaliadwyedd yn CPE, gweler ein Datganiad Eco-God.
Helpwch i dyfu'ch busnes heddiw ac ymgeisiwch nawr
neu siaradwch ag un o'r tîm
Ffoniwch ni ar 01745 535 232
neu anfonwch e-bost at info@cpe-wales.org
A oes angen cefnogaeth dechnegol ar eich busnes?
Mae ein technoleg wedi'i theilwra ar gyfer anghenion eich busnes!