Synhwyro a Mesur

Mae gan synhwyro a mesur drwy ganfod golau amrywiaeth eang o gymwysiadau. Mae synwyryddion presenoldeb, mesur pellter, a darllenwyr cod bar yn dechnolegau sefydledig ochr yn ochr â datblygiadau mwy diweddar sy'n caniatáu monitro cyfradd curiad y galon, synhwyro nwy, a chamerâu ar gyfer systemau golwg.

Mae Synhwyro a Mesur yn berthnasol i'r holl brif sectorau, yn cynnwys:

Awyrofod a Modurol                          Solar a Ffotofoltäig    

Electroneg ac Optoelectroneg      Gwyddonol a Meddygol        

Amaethyddiaeth a'r Amgylchedd       Amddiffyn a Diogelwch

Mae datblygiadau diweddar mewn dyfeisiau microelectroneg a thechnoleg ffôn clyfar yn golygu bod llawer o fathau o synwyryddion yn fach ac ar gael am gost isel ar gyfer datblygu prototeip. Mae sawl cydweithrediad CPE wedi cynnwys defnyddio'r synwyryddion hyn sydd ar gael yn fasnachol fel offeryn i ddatblygu datrysiadau synhwyrydd arloesol ar gyfer sectorau fel yr amgylchedd, y sector biofeddygol a gweithgynhyrchu.

Mae timau CAFf ym Mhrifysgol De Cymru a Phrifysgol Aberystwyth yn meddu ar arbenigedd meddalwedd a chaledwedd, a gwybodaeth am fyrddau datblygu fel Raspberry Pi, Arduino a mwy, i ddatblygu systemau AI cymwys.

Mae defnyddiau penodol yn cynnwys:

  • Synhwyro amgylcheddol
  • Synhwyro biofarcwyr
  • Systemau cyfrif cynnyrch
  • Datblygu prototeip
  • Systemau IoT parod
System Cyfrif Llechi Awtomatig - Welsh Slate Ltd
Datblygwyd yr uned synhwyro amgylcheddol Enviro365 gyda CAFf
Darllen am ein galluoedd eraill:
Prosesu Laser
Cyfleuster Haenau Ffilm Denau
Dylunio a Phrototeipio Optegol
Systemau Delweddu Gweledol/Thermol
Dadansoddi Sbectrosgopig
Synhwyro a Mesur
cyWelsh