CPE Director, Caroline Gray, speaks to Trade & Invest Wales.
Newyddion a Digwyddiadau
International Women’s Day 2022 – Interview with Hazel Hung
As part of International Women’s Day 2022, we caught up with Hazel Hung to discuss her career so far and how she first became involved in STEM.
Digwyddiadau ar y Gweill
9fed Rhagfyr, 8.30am-5pm, Arddangosfa Awyrofod Cymru 2021
Lleoliad: Coleg Cambria, Cei Connah
Mae CAFf yn gyffrous i gyhoeddi y byddwn yn arddangos yn Arddangosfa Awyrofod Cymru 2021. Cynhelir y digwyddiad arddangos gallu a chyfleoedd cadwyn gyflenwi hwn ddydd Iau 9fed Rhagfyr yng Ngholeg Cambria, Cei Connah.
Bydd cwmnïau fel Photonics Connected, Global Laser, a Glyndŵr Innovations yn y “Photonics Zone” yn ymuno â CAFf.
Beth am ymuno â ni yn y digwyddiad trwy gofrestru yma: Arddangosfa Awyrofod Cymru 2021
Gellir gwylio gweminarau cynharach yma:
Wales Tech Week 2021: Ffotoneg ar waith – Cynyddu ac Arloesi
Wales Tech Week 2021: Grafmarine – Lleihau Allyriadau Morol i ddim
Emerging Tech Fest 2021: Sut gallai partneriaethau diwydiannol-academaidd gyda Canolfan Arbenigedd Ffotoneg (CAFf) hybu diwiydiant yng Nghymru
Emerging Tech Fest 2021: Sut mae Ffotoneg yn gyrru Arloesi yng Nghymru
I gael trosolwg cyffredinol a dilyn astudiaethau achos cynllun CAFf, gwyliwch webinar ein Rheolwr Datblygu Busnes, Hazel Hung.
Gwyliwch webinar Dr David Coathup i gael gwybodaeth am yr adnoddau mwyaf diweddar sydd ar gael yn y Ganolfan OpTIC.
Digwyddiadau'r Gorffennol
27ain Hydref, 8am-2pm, Arddangosfa Fusnes Gogledd Cymru
Lleoliad: Coleg Cambria, Cei Connah
Wedi'i drefnu gan DBF (Fforwm Busnes Glannau Dyfrdwy), mae Arddangosfa Fusnes Gogledd Cymru yn ôl eto ar gyfer 2021. Dewch draw i gael sgwrs gyda ni am ddatrys heriau busnes technegol.
Diwrnod o Ffotoneg 21 Hydref 2021
Ymunwch â CPE Cymru i ddathlu Diwrnod o Ffotoneg ar 21 Hydref
Mae gennym ni amserlen llawn dop ar gyfer y diwrnod. Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol wrth i’r rhuthr ffotoneg ddatblygu!
Gweler ein tudalen bwrpasol Diwrnod o Ffotoneg i gael mwy o wybodaeth. Click Here.
9th Sept, Wales StartUp Awards 2021
Mae CPE yn falch o fod yn cefnogi Wales Start Up Awards.
View the shortlist yma . Results will be announced during an evening event, on Thurs 9th September Cyhoeddir y canlyniadau yn ystod digwyddiad hwyrol, Ddydd Iau, y 9ed Medi yn The Depot yng Nghaerdydd, i ddathlu y llwyddiannau busnesau newydd yng Nghymru.
Wales Tech Week, 21 -25 Mehefin
Mae Wythnos Dechnoleg Cymru, Gŵyl rithwir pum niwrnod Technology Connected, yn dod yn ôl yn yr haf ar ôl digwyddiad agoriadol llwyddiannus yn 2020. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth.
Llun 21 Mehefin, 11.45-12.45: Ffotoneg ar waith – Cynyddu ac Arloesi
Llun 21 Mehefin, 15.00-15.45: Lleihau Allyriadau Morol i ddim
Fawrth 8fed 2021, Merched mewn STEM - Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
Dewch i ddathlu Merched mewn STEM gyda ni ar Fawrth 8fed (1-2.30yp).
Mae'r digwyddiad hwn yn gydweithrediad rhwng M-SPARC a phum prosiect STEM Prifysgol Bangor yn cynnwys CPE. Gwrando ar yr Athro Caroline Gray, Cyfarwyddwr Rhaglen CPE ac y Dr Hazel Hung, Rheolwr Datblygu Busnes yn trafod eu gyrfaoedd yn y byd STEM.
Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma.
26-28th Jan 2021, Emerging Tech Fest 2021
Mae’r Ganolfan Arbenigedd Ffotoneg yn hynod falch i gyhoeddi ein bod mewn partneriaeth gyda Emerging Tech Fest 2021. Darllen mwy.
Archebwch eich lle yma: https://www.emergingtechfest.com
Sut gallai partneriaethau diwydiannol-academaidd gyda Canolfan Arbenigedd Ffotoneg (CAFf) hybu diwiydiant yng Nghymru
Sesiwn Gweithio gydag Academia: Dydd Mawrth, 26fed Ionawr 10.30-11.30
Cewch gwrdd gyda tîm CAFf wrth i ni drafod sut ‘rydym yn gweithio ar y cyd gyda cwmniau meicro, bychan a chanolig, ar draws Cymru i gefnogi datblygu cynnyrch a phrosesau. Cewch weld sut y bu i ddatblygiadau diweddar mewn technoleg ffotoneg gynnyddua gwella cynhyrchu ac arloesi mewn diwydiant.
Sut mae Ffotoneg yn gyrru Arloesi yng Nghymru
Sesiwn newydd-ddyfodiad technegol Dydd Iau, 28fed Ionawr 14.15-15.15
Mae‘r Ganolfan Arbenigedd Ffotoneg (CAFf), yn eich gwahodd i gwrdd ag arbenigwyr diwydiannol o sawl gwahnol sector i rannu eu profiad o ddatblygu ac arloesi. Cewch ddarganfod perthnasedd ffotoneg i ddiwydiant a’r prosiectau diddorol sy’n rhan o’u gwaith.
22 Hyd 2020, Sioe Deithiol Ranbarthol Canolbarth a De-orllewin Cymru 2020
Wedi'i threfnu gan Busnes Cymru a Llywodraeth Cymru, mae'r digwyddiad hwn yn cynnwys agenda diwrnod llawn yn pwysleisio cyfleoedd datblygu a gweithgareddau yn y rhanbarth.
Bydd CAFf yn cynnal stondin arddangos rithiol lle bydd ein tîm BDM ar gael am sgwrs un i un.
Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma.
Wythnos Dechnoleg Cymru, Cyfres Gweminar CAFf
Bydd cyfres gweminar CAFf sy'n rhan o Wythnos Dechnoleg Cymru yn trafod sut y gallwn gefnogi datblygu cynnyrch a phrosesau mewn busnesau yng Nghymru yn ogystal ag arddangos yr ystod o adnoddau peirianneg a'r cyfleusterau diweddaraf sydd ar gael. Gweler ein postiad blog am fanylion llawn.
Ymunwch â ni a chofrestru ar gyfer y digwyddiadau canlynol
Dydd Mawrth 14 eg Gorffennaf, 10.30-11.00
- Bydd prif bartner CPE, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, yn dangos yr ystod o gyfleusterau optig manwl arbenigol sydd ar gael yn y Ganolfan Technoleg OpTIC yn Llanelwy.
- Cofrestrwch yma: “Datblygwch eich cynnyrch, prosesau a thechnoleg gyda'r CAFf”
Dydd Mawrth 14 eg Gorffennaf, 14.00-15.30
- Mae ein tîm CPE ym Mhrifysgol Bangor yn arbenigwyr mewn technegau delweddu uwch a phrosesu laser, p'un a yw'n torri, weldio, ysgythru neu weadu arwyneb.
- Cofrestrwch yma: “Ymchwil ffotoneg flaengar ym Mhrifysgol Bangor”
Dydd Mercher 15 fed Gorffennaf, 12.15-12.45
- Yn cael ei gynnal gan rwydwaith busnes Cyfnewidfa PDC , bydd Rheolwr Datblygu Busnes CAFf, Hazel Hung, yn mynd i'r afael â sut a pham y dylai busnesau ymgysylltu â CAFf.
- Cofrestrwch yma: “Cymorth Ymchwil a Datblygu wedi'i ariannu gyda CAFf”
5 Maw 2020, Canolfan OpTIC, Prifysgol Glyndŵr, Llanelwy
Ffotoneg Arloesol yng Nghymru
- Mae CPE yn cynnal digwyddiad gyda chefnogaeth gan SPARCii ac ASTUTE i greu rhaglen ar gyfer y diwrnod a fydd yn arddangos cymwysiadau ffotoneg yn y byd go iawn a lle mae technolegau yn effeithio ar fusnesau heddiw.
- Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma.
4 a 7 Chwe 2020, 9:00-13:00, Campws Trefforest a Chasnewydd Prifysgol De Cymru
Clinigau Galw Heibio CPE
- I archwilio sut y gallwch chi weithio gyda CPE ar agweddau ymchwil, datblygu ac arloesi eich busnes a hynny'n rhad ac am ddim, gallwch gofrestru i fynychu un o'n slotiau galw heibio am ddim i drafod eich syniadau gydag aelod o'r tîm.
- Cynhelir cyfarfodydd ar ffurf un i un yn Cyfnewid Prifysgol De Cymru neu gellir eu cynnal dros alwad fideo ar Skype.
- 4 Chwe – Campws Trefforest. Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma.
- 7 Chwe – Campws Casnewydd. Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma.
29 Ion 2020, Llandudno
Gŵyl Tech Datblygol 2020
- Bydd CPE yn cynnal stondin ynglŷn â thechnoleg ddatblygol yn y digwyddiad cyffrous hwn. Dewch i'n gweld ni i gael sgwrs.
- Bydd ein Cyfarwyddwr CPE a Chyfarwyddwr Canolfan Dechnoleg OpTiC, Caroline Gray, ar y panel o arbenigwyr yn trafod Technolegau Datblygol yn y maes Iechyd.
- Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma.
14 Ion 2020, 17:30-20:00, Campws Casnewydd Prifysgol De Cymru
Gwneud y mwyaf o'ch Aelodaeth - Arloesedd mewn Busnes
- Ymunwch â Siambr Fasnach De Cymru am noswaith o Arloesedd Technoleg o'r radd flaenaf mewn cydweithrediad â Phrifysgol De Cymru yn yr Hwb Cyfnewid sydd newydd ei agor ar Gampws Dinas Casnewydd.
- Siaradwyr gwadd o CPE (Hazel Hung), CEMET a Simply Do.
- Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma.
