Cefnogi busnesau Cymru drwy arloesi ar y cyd

Nod Canolfan Arbenigedd Ffotoneg, CPE, yw cyflymu twf busnes drwy weithio gyda diwydiant gan gefnogi gyda datblygu prosesau, cynnyrch neu systemau.

Mae tîm Cymru gyfan CPE o bedair prifysgol yng Nghymru yn tynnu ar alluoedd academaidd blaenllaw, gan gynnig datrysiadau technolegol yn seiliedig ar olau i fusnesau ledled y wlad.

80+

Prosiectau Ymchwil a Datblygu Cydweithredol

50+

Cefnogwyd Busnesau Cymru

70+

Cynhyrchion neu Brosesau Newydd/Gwell

£2.2M

Ceisiadau grant dan arweiniad busnes

Mae CPE yn bartneriaeth ymchwil gydweithredol rhwng y byd academaidd a diwydiant.

Ariennir CPE gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru i gefnogi a darparu datrysiadau technegol i fusnesau yng Nghymru gyda'u prosesau gweithgynhyrchu a'u harloesiadau cynnyrch posibl drwy gymhwyso technoleg ffotoneg.

Gweithio gyda ni:

Watch our video:

Sut mae'n gweithio

  • Cawn gyfarfod cyflwyniadol i gyflwyno CPE a thrafod eich busnes a sut y gallem weithio gyda'n gilydd.
  • Yna bydd ein tîm technegol yn gweithio gyda chi i drafod mewn mwy o fanylder unrhyw gyfleoedd posibl i gydweithio a rhoi cynllun prosiect at ei gilydd.
  • Rhaid i gydweithrediadau cymwys gynnwys cwmni sydd â chyfeiriad busnes yng ngorllewin Gorllewin Cymru a rhanbarth y Cymoedd, a rhaid iddo gynllunio i effeithio ar dwf a datblygiad busnes.
  • Pan fydd y ddau barti yn gytûn ar gynllun prosiect, gall y gwaith ddechrau.
  • Cyfrannir swm cyfatebol y prosiect mewn nwyddau gan y partner diwydiannol.

Beth yw CAFf a sut mae hyn yn berthnasol i fusnesau yng Nghymru?

Gwyliwch ein fideo rhagarweiniol.

Beth yw'r gost i chi?

‘Does dim cost ariannol i’ch cwmni chi,
ar wahân i gyfraniadau cyfatebol, megis costau staff, wedi’w gwirio mewn taflenni amser.

Gweithiwn gyda chi gyda'r un ymdrech ac adnoddau i ddatblygu neu ddatrys y prosesau, cynhyrchion neu'r systemau sydd eu hangen arnoch.

Ariennir yr arbenigedd academaidd gan y prosiect ac fe gyfrannir swm cyfatebol mewn nwyddau gan y bartneriaeth ddiwydiannol.

Darllenwch fwy am ein gwasanaethau.

cyWelsh