Dylunio a Phrototeipio Optegol

Mae modelu a dadansoddi systemau optegol yn cefnogi newidiadau o ran dylunio i gael canlyniadau fel gwell effeithlonrwydd, crynoder, neu barhauster.

Mae dylunio a/neu brototeipio yn berthnasol i'r holl brif sectorau, yn cynnwys:

Awyrofod a Modurol                          Solar a Ffotofoltäig    

Electroneg ac Optoelectroneg      Gwyddonol a Meddygol        

Amaethyddiaeth a'r Amgylchedd       Amddiffyn a Diogelwch

Mae sawl cydweithrediad o fewn y diwydiant wedi defnyddio modelu optegol, dylunio optegol a chyfleusterau prototeipio CAFf. Mae ein harbenigedd mewn pecynnau modelu optegol, megis Zemax, wedi galluogi gwelliannau sylweddol mewn perfformiad optegol y cynnyrch a ddatblygwyd gan BBaChau yng Nghymru.

Mae gan dîm CAFf ym Mhrifysgol De Cymru arbenigedd craidd mewn datblygu systemau optegol laser a LED. Yn eu labordy ffototoneg penodol ceir cyfleusterau prototeipio megis argraffwyr 3D, modelu CNC a chwistrellu, er mwyn datblygu prototeipiau yn gyflym am lai o gost.

Mae CAFf hefyd yn arwain arbenigedd mewn systemau optegol manwl ar gyfer maes awyrofod ac amddiffyn, gwyddorau gofod, a marchnadoedd meddygol a seryddiaeth drwy Ganolfan Dechnoleg OpTIC Prifysgol Glyndŵr Wrecsam. Mae ei phrif alluoedd mewn opteg gywir yn cynnwys dylunio optegol, saernïo a mesureg arwynebau.

Mae defnyddiau penodol yn cynnwys:

  • LEDs: Goleuadau a goleuo
  • Dylunio, gweithredu a masnachu systemau laser (e.e. laserau cyweiriadwy, laserau pŵer uchel)
  • System fesur optegol - dylunio a gweithredu
  • Dylunio a modelu optegol
  • Prototeipio Systemau Optegol
  • Systemau Optegol Tra-chywir
System Delweddu Cyfrif Wyau Ysgarthol - astudiaeth achos Techion
Global Laser 3D printed parts
Rings OpTIC
Darllen am ein galluoedd eraill:
Prosesu Laser
Cyfleuster Haenau Ffilm Denau
Dylunio a Phrototeipio Optegol
Systemau Delweddu Gweledol/Thermol
Dadansoddi Sbectrosgopig
Synhwyro a Mesur
cyWelsh