“Y prosiect deufis, a'i redeg yn esmwyth i'w gasgliad. Bellach mae gennym ddealltwriaeth gryfach o lawer o'r hyn a oedd yn bosibl i'n cysyniad cynnyrch optegol ac rydym eisoes wedi nodi'r cyfle dilynol i fanteisio ar gyfleuster cotio gwactod CAFf.”
Astudiaethau Achos
Fe gawsom ni, yn Mon Naturals, argraff arbennig o dda o CAFf a galluoedd y prosiect. Unwaith ‘roedden ni wedi cytuno y posibilrwydd o gyd-weithio, gyda’r Tîm, gosodwyd prosiect yn ei le yn ddi-oed ac ‘roedd yn weithredol mhen dim. ‘Roedd y broses yma’n effeithiol ac yn ein rhyddhau i ganolbwyntio ar y prosiect ei hun yn hytrach na’r gwaith papur yn ei gylch. O’r cychwyn cyntaf, bu hyn yn brofiad positif a ‘dwi’n dra diolchgar I’r Tîm am eu proffesionoldeb
Ianto Jones, Director
Mae bod yn gwmni newydd bychan yn y Sector Amgylcheddol yn eithaf heriol wrth geisio cyngor a chymorth i hybu cysyniadau cychwynnol. Fe ddefnyddiom y rhyngrwyd i ddod o hyd i ffynonellau ariannu a bu i Innovate UK ein rhoi mewn cysylltiad gyda CAFf. Arweiniodd hyn i gydweithrediad cynnar fu’n fuddiol ei fewnbwn syniadol a gallu technegol, ac i hybu ein cysyniadau cychwynnol i gyflwr a chymal prototeip ar gyfer ariannu pellach. Gwnaethpwyd y trefniadau gweinyddol yn rhwydd a heb y math yma o gymorth academaidd, byddai’r prosiect wedi cael ei oedi yn ddi-ben-draw hyd nes y bydde digon o amser ac arian i’w ganiatau.
Tony Powell, Managing Director
Mae gweithio gyda'r tîm CPE wedi cynorthwyo Grafmarine i ail-werthuso ei brosesau gweithgynhyrchu gan ddefnyddio technoleg ffotoneg, gan arwain at gyflawni datblygiad cynnyrch gwell, cydweithrediad agosach yn y gadwyn gyflenwi gyda chyflenwyr busnesau bach a chanolig yng Nghymru a'r sylweddoliad bod arloesedd yn strategaeth greiddiol i'n twf
Martin Leigh, Director
Mae tîm CPE Prifysgol Bangor wedi buddsoddi llawer o amser ac adnoddau i ddatrys y broblem hon drwy weithredu ffotoneg a rhaglennu unigryw yn llwyddiannus. Mae Welsh Slate yn edrych ymlaen at ddatblygu'r prosiect ymhellach gyda Phrifysgol Bangor, gyda'r nod o wella manwl gywirdeb a gweithredu adnabod patrymau, gan sicrhau y bydd y system yn gallu rhedeg yn llwyddiannus yn yr amgylchedd cynhyrchu
Dylan Evans, Project Engineer
Mae'r astudiaeth ddichonoldeb yr ymgymerwyd â hi drwy CPE wedi ein galluogi ni i sicrhau gyda hyder yr offer a'r gyllideb i'r cyflenwad pŵer drwy ffotofoltäig er mwyn datblygu ein prosesau i wneud cynnydd gyda cham cyntaf ein treialon yn Namibia. Yn amodol ar lwyddiant y treialon hyn, byddem yn awyddus i weithio gyda'r tîm eto i adnabod gofynion ffotofoltäig wrth i ni ehangu
Huw Parry, Managing Director
Rydym yn credu'n gryf mai marcio nano gan ddefnyddio ysgrifellu laser, gyda ffotoneg i farcio'r diemwntau yn unigryw mewn ffordd annistrywiol, yw'r ateb ar gyfer olrhain ac adnabod diogel. Mae gweithio gyda phartner CPE sef Prifysgol Bangor wedi dangos yn glir bod hyn yn bosibl yn eu hastudiaeth ddichonoldeb, a byddem yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw eto i archwilio'r broses arloesol hon yn llawn.
Kelvin James, Rheolwr Gyfarwyddwr
Mae gweithio ar y cyd â CPE wedi ein helpu i adnabod datrysiadau argraffu 3D sy'n bodloni ein goddefiannau dyrys yn ein cynhyrchion laser. Credwn nawr y gellir cymhwyso'r dechnoleg hon i nifer o gynhyrchion a fydd yn arwain at ostyngiadau enfawr mewn costau ac yn ein helpu i wella ein helw. Rydym yn falch iawn gyda'r ddealltwriaeth y mae'r prosiect hwn wedi'i rhoi.
David Beckerley, Financial Director