Mae bod yn gwmni newydd bychan yn y Sector Amgylcheddol yn eithaf heriol wrth geisio cyngor a chymorth i hybu cysyniadau cychwynnol. Fe ddefnyddiom y rhyngrwyd i ddod o hyd i ffynonellau ariannu a bu i Innovate UK ein rhoi mewn cysylltiad gyda CAFf. Arweiniodd hyn i gydweithrediad cynnar fu’n fuddiol ei fewnbwn syniadol a gallu technegol, ac i hybu ein cysyniadau cychwynnol i gyflwr a chymal prototeip ar gyfer ariannu pellach.
Bu i ni fwynhau y daith gyda dau ymchwilydd profiadol yn ogystal â Chydlynnydd prosiect, wedi dod atom, oll yn cynnig cyfraniad rhagweithredol i ddeall safbwynt a bwriad Enviro365.
Gwnaethpwyd y trefniadau gweinyddol yn rhwydd a heb y math yma o gymorth academaidd, byddai’r prosiect wedi cael ei oedi yn ddi-ben-draw hyd nes y bydde digon o amser ac arian i’w ganiatau.
Y canlyniad i Enviro365 ydi y bydd y cymal nesaf o’n taith yn gyffrous, gyda ffrindiau newydd a phartneriaeth Prifysgol lwyddiannus, sy’n ychwanegu gwerth i hyn, a phrosiectau’r dyfodol.”
Tony Powell (Rheolwr Gyfarwyddwr), Enviro 365