Dylunio a Phrototeipio Optegol
Mae dylunio a/neu brototeipio yn berthnasol i'r holl brif sectorau, yn cynnwys:
Awyrofod a Modurol Solar a Ffotofoltäig
Electroneg ac Optoelectroneg Gwyddonol a Meddygol
Amaethyddiaeth a'r Amgylchedd Amddiffyn a Diogelwch
Mae sawl cydweithrediad o fewn y diwydiant wedi defnyddio modelu optegol, dylunio optegol a chyfleusterau prototeipio CAFf. Mae ein harbenigedd mewn pecynnau modelu optegol, megis Zemax, wedi galluogi gwelliannau sylweddol mewn perfformiad optegol y cynnyrch a ddatblygwyd gan BBaChau yng Nghymru.
Mae gan dîm CAFf ym Mhrifysgol De Cymru arbenigedd craidd mewn datblygu systemau optegol laser a LED. Yn eu labordy ffototoneg penodol ceir cyfleusterau prototeipio megis argraffwyr 3D, modelu CNC a chwistrellu, er mwyn datblygu prototeipiau yn gyflym am lai o gost.
Mae CAFf hefyd yn arwain arbenigedd mewn systemau optegol manwl ar gyfer maes awyrofod ac amddiffyn, gwyddorau gofod, a marchnadoedd meddygol a seryddiaeth drwy Ganolfan Dechnoleg OpTIC Prifysgol Glyndŵr Wrecsam. Mae ei phrif alluoedd mewn opteg gywir yn cynnwys dylunio optegol, saernïo a mesureg arwynebau.
Mae defnyddiau penodol yn cynnwys:
- LEDs: Goleuadau a goleuo
- Dylunio, gweithredu a masnachu systemau laser (e.e. laserau cyweiriadwy, laserau pŵer uchel)
- System fesur optegol - dylunio a gweithredu
- Dylunio a modelu optegol
- Prototeipio Systemau Optegol
- Systemau Optegol Tra-chywir