Synhwyro a Mesur
Mae Synhwyro a Mesur yn berthnasol i'r holl brif sectorau, yn cynnwys:
Awyrofod a Modurol Solar a Ffotofoltäig
Electroneg ac Optoelectroneg Gwyddonol a Meddygol
Amaethyddiaeth a'r Amgylchedd Amddiffyn a Diogelwch
Mae datblygiadau diweddar mewn dyfeisiau microelectroneg a thechnoleg ffôn clyfar yn golygu bod llawer o fathau o synwyryddion yn fach ac ar gael am gost isel ar gyfer datblygu prototeip. Mae sawl cydweithrediad CPE wedi cynnwys defnyddio'r synwyryddion hyn sydd ar gael yn fasnachol fel offeryn i ddatblygu datrysiadau synhwyrydd arloesol ar gyfer sectorau fel yr amgylchedd, y sector biofeddygol a gweithgynhyrchu.
Mae timau CAFf ym Mhrifysgol De Cymru a Phrifysgol Aberystwyth yn meddu ar arbenigedd meddalwedd a chaledwedd, a gwybodaeth am fyrddau datblygu fel Raspberry Pi, Arduino a mwy, i ddatblygu systemau AI cymwys.
Mae defnyddiau penodol yn cynnwys:
- Synhwyro amgylcheddol
- Synhwyro biofarcwyr
- Systemau cyfrif cynnyrch
- Datblygu prototeip
- Systemau IoT parod