Cyfleuster Haenau Ffilm Denau Ymchwil a Datblygu (YaD)
Mae technoleg ffilm denau yn effeithio ar bob prif sector gan gynnwys:
Awyrofod a Modurol Solar a Ffotofoltäig
Electroneg ac Optoelectroneg Gwyddonol a Meddygol
Amaethyddiaeth a'r Amgylchedd Amddiffyn a Diogelwch
Cyfleuster ymchwil a datblygu haenau ffilm tenau gwerth £1.2M CAFf yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru ac mae'n galluogi cwmnïau o fewn rhanbarth gorllewin Cymru a'r Cymoedd i ddatblygu cynhyrchion technoleg a chymwysiadau ffilm denau. Mae tîm CAFf o arbenigwyr ffilm denau yn gweithio’n agos gyda’r cwmnïau hyn gan gefnogi datblygiad prototeip yn ogystal ag Ymchwil a Datblygu masnachol ar raddfa gynhyrchu gan ddatblygu prosesau a chynhyrchion dyddodi gwactod ffilm denau.
Nod Canolfan Arbenigedd Ffotoneg, CPE, yw cyflymu twf busnes drwy weithio gyda diwydiant gan gefnogi gyda datblygu prosesau, cynnyrch neu systemau. Mae Cyfleuster Haenau Ffilm Tenau CAFf wedi'i leoli yng Nghanolfan OpTIC Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn Llanelwy. Mae'n cynnwys gwaith haenu gwactod safon diwydiant ynghyd ag offer ategol allweddol ar gyfer dadansoddi optegol a phrofion amgylcheddol.
Dadlwythwch ein taflen i gael mwy o wybodaeth:
Mae defnyddiau penodol yn cynnwys:
- Lensys a systemau camera
- Optoelectroneg a microlithograffeg
- Ffotofoltäig, synwyryddion a hidlwyr
- Haenau laser a drych
- Microsgopau a thelesgopau
Cliciwch i ehangu i gael mwy o wybodaeth:
Ar gyfer cynhyrchu Ymchwil a Datblygu ffilmiau tenau dwysedd uchel ar gyfer prototeipio a masgynhyrchu.
- Lled siambr o 1350 mm
- Dwy ffynhonnell dyddodi pelydr electronau
- Un anweddydd thermol
- Ffynhonnell plasma RF dyddodiad â Chymorth ïon Plasma (PIAD) i wella dwysedd ac ansawdd ffilmiau tenau
- Yn gallu gorchuddio haenau optegol ar gyfer tonfeddi UV dwfn i is-goch pell
- System fonitro optegol integredig
Mae'n mesur trosglwyddiad, adlewyrchiad ac amsugniad o donfeddi uwchfioled i donfeddi sydd bron yn is-goch ar draws ystod ongl lydan.
- Amrediad tonfedd mesuradwy 175-3300 nm
- Adlewyrchiad a thrawsyrrianedd adlewyrchol aml-ongl
- Trosglwyddiad uniongyrchol, adlewyrchiad ac amsugnedd
Siambr profi tymheredd a lleithder ar gyfer profi perfformiad a oes.
- Tymheredd rhwng -70°C a 150°C
- Lleithder cymharol rhwng 0 a 98%
- Maint mewnol 600 x 600 x 600 mm3
- Cylchu tymheredd cyflym
- Tri phorth mynediad
- Profi i safonau ISO a MIL