Systemau Delweddu Gweledol/Thermol
Mae delweddu thermol/gweledol yn berthnasol i'r holl brif sectorau, yn cynnwys:
Awyrofod a Modurol Solar a Ffotofoltäig
Electroneg ac Optoelectroneg Gwyddonol a Meddygol
Amaethyddiaeth a'r Amgylchedd Amddiffyn a Diogelwch
Mae systemau delweddu yn helpu i wneud gwaith casglu a dadansoddi digidol rheoledig, gan ein galluogi i weld rhywbeth yn fwy clir ar unwaith, perfformio prosesu delweddau ar gyfer mewnwelediad meintiol, a darparu monitro o bell amser go iawn.
Mae'r defnydd o gamerâu gweledol neu thermol yn un o'r ffyrdd fwyaf cyffredin o ddefnyddio ffototoneg mwn cydweithrediadau CAFf. Mae'r rhain yn tueddu i fod oddi ar y silff ac yn cael eu defnyddio i ddarparu datrysiadau wedi'u teilwra ar gyfer prosesu delweddau mewn amodau goleuo anodd ar brydiau. Mae ein tîm ym Mhrifysgol Aberystwyth yn arbenigo mewn thermometreg, ac mae ganddo gamerâu thermol y gellir eu defnyddio ar gyfer dadansoddi perfformiad system.
Yn olaf, mae ein systemau o'r radd flaenaf yn cynnwys:
- Nanosgop ac Uwchlens Prifysgol Bangor ar gyfer delweddu manwl gydag eglurder ar y raddfa nanomedr
- Microsgop cydffocal ar gyfer delweddu 3D
- Proffil arwyneb ar gyfer mesuriadau garwedd is-angstrom.
Mae defnyddiau penodol yn cynnwys:
- Tynnu delweddau ar gyfer systemau gweledigaeth e.e. cyfrif cynnyrch, rheoli ansawdd
- Systemau camera thermol ar gyfer dadansoddi
- Delweddu tra-chywir i'r raddfa nanomedr