Mae’r Ganolfan Arbenigedd Ffotoneg (CAFf) yn gweithio gyda cwmniau yng Ngyhmru i wella, neu ddatblygu, cynnyrch neu brosesau er budd i’r busnesau. Partneriaeth ydyw o bedair o Brifysgolion Cymru, ac mae’n cael ei ariannu gan Swyddfa Ariannu Ewropeaidd Cymru. Cynlluniwyd CAFf fel ei bod yn rhoi rhwydd fynediad at adnoddau a mwynderau academaidd yn ddi-draul ar y cwmni.
Gweithio gyda ni
" Ffotoneg yw technoleg golau. Mae'n hanfodol i'n bywyd bob dydd drwy dechnoleg megis ffonau clyfar, sgriniau, telathrebu a golau LED.
Ceir technoleg ffotoneg mewn ystod eang o sectorau diwydiannol, megis: gweithgynhyrchu, modurol, bwyd, gwyddorau bywyd ac ynni. "
About Us
Prifysgol Glyndŵr Wrecsam – the lead partner for the project
As the lead partner for CPE, Wrexham Glyndŵr University’s team is based in the OpTIC Technology Centre in St Asaph. This facility is a hub for high-level opto-electronics technology and scientific innovation specialising in precision optical systems for aerospace and defence, space sciences, medical and astronomy markets.
Through CPE, businesses can have access to a range skilled expertise and state-art-facilities such as:
- Thin film vacuum coating facility
- Precision Optical Systems Design
- Environmental testing chamber
- Fibre Optic thermometry
- Microwave technology, optimised system design, and processing of materials
- Fabrication of Precision optical components
- Opto-mechanical design and FE of Optical Systems assemblies
- Metrology of complex optical surfaces
- Spectroscopy
Prifysgol Bangor
Mae ganddi draddodiad hir o ragoriaeth academaidd a ffocws cryf ar brofiad myfyrwyr. Yn ôl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, mae Prifysgol Bangor ymhlith y 40 gorau yn y Deyrnas Unedig am ymchwil*. Roedd y Fframwaith yn cydnabod bod mwy na thri chwarter ymchwil Bangor naill ai'n arwain y ffordd yn fyd-eang neu'n rhagorol ar lefel ryngwladol, sy'n uwch na'r cyfartaledd ar gyfer prifysgolion y Deyrnas Unedig.
- Peirianneg Fanwl â Laser
- Systemau manwl ar raddfa fach iawn ar gyfer delweddu, patrymu a synhwyro gan ddefnyddio Nanosgop ac Uwchlens Bangor
- Dylunio ac efelychu (Hidlydd gwrth-laser, THz, acwsteg, ac optegol)
- Laserau lled-ddargludydd
- Ffotoneg ficrodonfedd
Prifysgol Aberystwyth
Bydd y brifysgol yn gweithio gyda chwmnïau gweithgynhyrchu gorllewin Cymru a'r Cymoedd drwy gyfnewid gwybodaeth ynglŷn â photensial meddalwedd i wella eu gallu i gystadlu, a bydd yn eu cefnogi i gyflawni manteision posibl drwy brosiectau ar y cyd.
- Rhyngweithio Ymbelydredd â Mater
- Haenau tenau, Arwynebau, Rhyngwynebau a Nanoddeunyddiau
- Dadansoddi Arwynebau
- Gwyddor Solar a Phlanedol
- Offer Archwilio Planedol
- Offer Optegol a Phelydr-X
- HPC a Modelu Ymbelydredd
- Prosesu Delwedd
Prifysgol De Cymru
Mae gan Brifysgol De Cymru dri champws ledled rhanbarth de Cymru: Pontypridd, Caerdydd a Chasnewydd. Mae Prifysgol De Cymru yn gweithio gyda phartneriaid diwydiannol ar draws nifer o wahanol sectorau i ddarparu ymchwil cydweithredol sy'n berthnasol ac yn darparu datrysiadau i heriau diwydiannol heddiw.
Yn arwain tîm CPE Prifysgol De Cymru mae'r Athro Nigel Copner, sydd hefyd yn gadeirydd y Ganolfan Ymchwil ac Arloesedd Di-wifr ac Optoelectroneg (WORIC), ac yn ei gyd-arwain mae Hefin Rowlands, Athro Rheoli Ansawdd. Mae'r tîm yn arbenigo mewn dylunio a gweithredu systemau optegol ar draws amrywiaeth o sectorau, megis gweithgynhyrchu, meddygol a gwyddorau bywyd. Ar ben hyn, gall eu harbenigedd mewn egwyddorion gweithgynhyrchu gefnogi busnesau sy'n awyddus i symleiddio eu prosesau.
Gweler isod meysydd penodol y gall y tîm helpu i gefnogi anghenion eich busnes:
- LEDs: Goleuadau a goleuo
- Dylunio, gweithredu a masnachu systemau laser (e.e. laserau cyweiriadwy, laserau pŵer uchel)
- System fesur optegol - dylunio a gweithredu
- Dylunio a modelu optegol
- Prototeipio Systemau Optegol
- Agweddau yn ymwneud â Rheoli Ansawdd a Pheirianneg Ansawdd
- Datblygu proses gwella parhaus
- Cymhwyso offer a thechnegau Ansawdd ar gyfer gwella proses a chynnyrch
Helpwch i dyfu'ch busnes heddiw ac ymgeisiwch nawr
neu siaradwch ag un o'r tîm
Ffoniwch ni ar 01745 535 232
neu anfonwch e-bost at info@cpe-wales.org
A oes angen cefnogaeth dechnegol ar eich busnes?
Mae ein technoleg wedi'i theilwra ar gyfer anghenion eich busnes!