Micro Generation UK Ltd: Cynhyrchu PPE yn ystod pandemig COVID-19

Disgrifiad o'r Prosiect

Cydweithiodd MicroGeneration Ltd a Phrifysgol Aberystwyth ar brosiect CPE i ddatblygu proses sy'n seiliedig ar ffotoneg i hwyluso'r gwaith o weithgynhyrchu cynhyrchion cyfarpar diogelwch personol (PPE) ar ffurf sgriniau wyneb amddiffynnol.

Manylion y Prosiect

  • Cwmni: Micro Generation UK Ltd
  • Partner CAFf: Prifysgol Aberystwyth
  • Lleoliad: Ceredigion

Yn ystod camau cynnar argyfwng COVID-19, roedd diffyg cyfarpar diogelu personol i'w defnyddio mewn ysbytai, cartrefi gofal a meddygfeydd teulu. Roedd MicroGeneration UK Ltd yn gweithio fel rhan o grŵp o gwmnïau a oedd yn ceisio darparu cyfarpar diogelu personol i wahanol leoliadau ledled Cymru, gan gynnwys Aberystwyth, Machynlleth, y Drenewydd a'r Trallwng. Roedd y gwaith cychwynnol o gynhyrchu sgriniau wyneb PPE yn cynnwys argraffu 3D a chreu â dwylo, a oedd yn araf ac yn aneffeithlon.

Ceisiodd MicroGeneration weithio ochr yn ochr â thîm CPE Aberystwyth i werthuso’r defnydd o ffotoneg i gyflymu’r gwneuthuriad a gwella manwl gywirdeb cynhyrchu amddiffynnydd wyneb, gan greu cyflenwad PPE ychwanegol i Gymru; yn benodol, yn ardaloedd Ceredigion a Phowys.

Datblygodd CPE, ar y cyd â MicroGeneration, broses sy'n seiliedig ar ffotoneg i hwyluso'r gwaith o weithgynhyrchu cynhyrchion PPE ar ffurf sgriniau wyneb amddiffynnol. Darparodd MicroGeneration ddeunyddiau stoc cynhyrchu a'r ffeiliau digidol cychwynnol ar gyfer torri'r deunyddiau stoc i'r siapiau gofynnol. Yna prosesodd tîm CPE Prifysgol Aberystwyth y deunyddiau stoc, gan ddefnyddio'r dull o dorri gyda laser, gwerthuso'r broses / gwella cynhyrchiant, a mireinio'r ffeiliau digidol gan ddefnyddio'r dull hwn sy'n seiliedig ar ffotoneg.

Cynyddodd y defnydd o dorri gyda laser allbwn cynhyrchu sgriniau wyneb yn sylweddol, gan gynyddu o tua 2 yr awr i 40 yr awr. Yn ogystal, gwelwyd gwelliant sylweddol yng nghywirdeb ac ansawdd y cynnyrch gorffenedig hefyd.

Rhoddodd MicroGeneration y cydrannau at ei gilydd i greu sgriniau wyneb llawn a oedd yn bodloni gofynion cyfarpar diogelu personol i'w defnyddio mewn ysbytai, cartrefi gofal a meddygfeydd teulu. Yna fe'u dosbarthwyd i'r lleoliadau a oedd mewn angen.

cyWelsh