OTI – Optical system design analysis of precision instrumentation

Disgrifiad o’r Cwmni

Mae OTI yn gwmni arbenigol sy'n darparu systemau optegol ac arbenigedd dylunio i sicrhau mesur ac arolygu cost-effeithiol ym meysydd: Gweithgynhyrchu Cydrannau Optegol, Offer Cywirdeb Swbstrad, Problemau Alinio

Manylion y Prosiect

  • Cwmni: OTI (Optical Tools for Industry)
  • Partner CAFf: Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
  • Lleoliad: Sir Ddinbych, Llanelwy

Datblygodd OTI brototeip interferomedr Twyman-Green gydag agoriad mawr a ffynhonnell golau band eang i fesur samplau gwydr gwastad tenau. Cyfyngwyd perfformiad yr offeryn gan y dyluniad optegol a cheisiodd OTI arbenigedd ac adnoddau gan CAFf i fodelu a gwella hyn.

Roedd y cydweithrediad CAFf yn cynnwys modelu optegol yr offeryn prototeip presennol, gan ddefnyddio Zemax OpticStudio®, i nodi meysydd sy'n achosi cyfyngiadau perfformiad.

Gwellwyd dyluniad yr offeryniaeth yn llwyddiannus heb gynyddu cymhlethdod yn ormodol a thrwy ddefnyddio optegau catalog o ffynonellau ar gael yn rhwydd lle bo hynny'n bosibl.

Gostyngwyd gwallau dylunio cynhenid yn ôl factor >25, ac i lai na λ/20 (P-V: Peak to Valley) trwy ychwanegu tair elfen optegol oddi ar y silff.

cyWelsh