SureChill Ltd – Thermal Analysis of Novel Off-Grid Refrigeration

Disgrifiad o’r Cwmni

Mae’r cwmni Sure Chill yn dylunio oergelloedd sy'n defnyddio dulliau oeri newydd sydd wedi'u optimeiddio i'w defnyddio mewn marchnadoedd lle na ellir gwarantu cyflenwad pŵer dibynadwy. Defnyddir eu cynnyrch craidd mewn amgylcheddau garw, fel Affrica, ar gyfer storio brechlynnau a deunyddiau eraill sy'n sensitif i dymheredd yn ddiogel.

Manylion y Prosiect

  • Cwmni: The Sure Chill Company Ltd
  • Partner CAFf: Prifysgol Aberystwyth
  • Lleoliad: Ceredigion, Cardiff

Mae Sure Chill wedi datblygu dyluniad newydd ar gyfer oergell cynnyrch manwerthu masnachol a all weithredu sawl diwrnod heb bŵer prif gyflenwad. Roedd angen brys iddynt brofi eu cynnyrch prototeip mewn siambr amgylcheddol a allai efelychu amodau tymheredd a lleithder hinsawdd yn Affrica. Prif nodau Sure Chill oedd cadarnhau gallu'r oergell i oeri poteli dŵr wedi'u storio, ei effeithlonrwydd, a monitro pa mor oer y byddai’r poteli yn aros pan fyddai pŵer y prif gyflenwad wedi'i dynnu i ffwrdd.

Er mwyn cefnogi Sure Chill i gael gwell dealltwriaeth o berfformiad y prototeip, cymerwyd delweddau thermol meintiol o'r oergell ar gyfnodau wedi'u hamseru, dros ystod o amodau gweithredu, megis yn ystod y tynnu i lawr cychwynnol pan lwythwyd poteli dŵr cynnes i'r oergell, ac yn ystod y cylch oeri i nodi a oedd unrhyw ollyngiad gwres o'r amgylchedd i du mewn yr oergell yn weladwy. Ategwyd y wybodaeth weledol hon â mesuriadau tymheredd uniongyrchol o'r poteli yn ystod y broses gyfan.

Following the collaboration with CPE some minor design changes were identified which have led to further improvements to the refrigerator efficiency.

cyWelsh