Techion: Rheoli Clefydau gyda Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer y Sector Amaethyddol

Disgrifiad o'r Prosiect

Bu i Techion a Phrifysgol Aberystwyth weithio gyda’I gilydd ar brosiect CAFf er gwella dyluniad optegol dyfais delweddu ar gyfer rheoli haint mewn da byw. Bydd hyn yn caniatau i Techion ddatblygu cynnyrch newydd fydd yn defnyddio DA i gynnal gweithdrefn ddeallus ar gyfer adnabod anghenion gofal.

Manylion y Prosiect

  • Cwmni: Techion UK Ltd
  • Partner CAFf: Prifysgol Aberystwyth
  • Lleoliad: Ceredigion

Mae gweithio gyda’r tîm CAFf yn Aberystwyth wedi ein helpu i nodi meysydd allweddol ar gyfer gwella er mwyn cynyddu ei galluoedd delweddu. Mae'r rhain eisoes yn cael eu hymgorffori yn ein dyfais delweddu ac maent yn arwain at well ansawdd delwedd o'r maes. Gwelsom fod y tîm yn ymarferol iawn ac maent wedi treulio amser i ddod i ddeall ein busnes a'n gofynion ac rydym yn edrych ymlaen at ymestyn ein perthynas waith

Eurion Thomas, Rheolwr Gweithrediadau Ewropeaidd

Mae Techion yn wneuthurwr systemau ar gyfer rheoli clefydau yn y sector amaethyddol. Maent wedi datblygu system sy'n seiliedig ar ddelweddau sy'n nodi haint parasitiaid mewn da byw (fel defaid a gwartheg), gan ddefnyddio proses a elwir yn Gyfrif Wyau Ysgarthol (CWY). Er mwyn chwilio am haint parasitiaid, rhaid gwirio'r da byw yn rheolaidd drwy CWY. Mae gan Techion gynnyrch sy'n helpu i baratoi sampl ac yna gellir gweld y sampl o dan ddyfais ddelweddu a delwedd wedi'i chipio er mwyn cyflawni'r CWY.

Drwy gefnogi CAFf, roedd Techion am wella pŵer datrys optegol eu system delweddu i'w uwchraddio o gyfrif wyau parasitiaid yn 'syml' â llaw i gyfrif wedi ei bweru gan ddeallusrwydd artiffisial a rhywogaethau wyau parasitiaid. Bydd hyn yn golygu y byddent yn gallu adnabod heintiau cymysg er mwyn sicrhau bod yr anifeiliaid yn cael y driniaeth gywir.

Roedd y cydweithrediad CAFf â Phrifysgol Aberystwyth yn cynnwys gwerthuso'r dyluniad presennol ac yna gwneud argymhellion i wella'r datrysiad optegol ar gyfer dyluniad cynnyrch newydd. Mae'r llun yn dangos y delweddau o wyau parasitiaid cyn (chwith) ac ar ôl argymhellion a wnaed gan CAFf (dde). Cyflawnodd y tîm welliant 3 cham yn y datrysiad yn ogystal â nodi cyfle i leihau costau eu synhwyrydd delwedd a gwella goleuo sampl.

Mae Prifysgol Aberystwyth a Techion nawr yn gweithio gyda’i gilydd i fynd â’r cydweithrediad hwn ymhellach, tu hwnt i’r rhaglen CAFf.

cyWelsh