Mae Sure Chill wedi datblygu dyluniad newydd ar gyfer oergell cynnyrch manwerthu masnachol a all weithredu sawl diwrnod heb bŵer prif gyflenwad. Roedd angen brys iddynt brofi eu cynnyrch prototeip mewn siambr amgylcheddol a allai efelychu amodau tymheredd a lleithder hinsawdd yn Affrica. Prif nodau Sure Chill oedd cadarnhau gallu'r oergell i oeri poteli dŵr wedi'u storio, ei effeithlonrwydd, a monitro pa mor oer y byddai’r poteli yn aros pan fyddai pŵer y prif gyflenwad wedi'i dynnu i ffwrdd.
Er mwyn cefnogi Sure Chill i gael gwell dealltwriaeth o berfformiad y prototeip, cymerwyd delweddau thermol meintiol o'r oergell ar gyfnodau wedi'u hamseru, dros ystod o amodau gweithredu, megis yn ystod y tynnu i lawr cychwynnol pan lwythwyd poteli dŵr cynnes i'r oergell, ac yn ystod y cylch oeri i nodi a oedd unrhyw ollyngiad gwres o'r amgylchedd i du mewn yr oergell yn weladwy. Ategwyd y wybodaeth weledol hon â mesuriadau tymheredd uniongyrchol o'r poteli yn ystod y broses gyfan.
Following the collaboration with CPE some minor design changes were identified which have led to further improvements to the refrigerator efficiency.