Mae Techion yn wneuthurwr systemau ar gyfer rheoli clefydau yn y sector amaethyddol. Maent wedi datblygu system sy'n seiliedig ar ddelweddau sy'n nodi haint parasitiaid mewn da byw (fel defaid a gwartheg), gan ddefnyddio proses a elwir yn Gyfrif Wyau Ysgarthol (CWY). Er mwyn chwilio am haint parasitiaid, rhaid gwirio'r da byw yn rheolaidd drwy CWY. Mae gan Techion gynnyrch sy'n helpu i baratoi sampl ac yna gellir gweld y sampl o dan ddyfais ddelweddu a delwedd wedi'i chipio er mwyn cyflawni'r CWY.
Drwy gefnogi CAFf, roedd Techion am wella pŵer datrys optegol eu system delweddu i'w uwchraddio o gyfrif wyau parasitiaid yn 'syml' â llaw i gyfrif wedi ei bweru gan ddeallusrwydd artiffisial a rhywogaethau wyau parasitiaid. Bydd hyn yn golygu y byddent yn gallu adnabod heintiau cymysg er mwyn sicrhau bod yr anifeiliaid yn cael y driniaeth gywir.
Roedd y cydweithrediad CAFf â Phrifysgol Aberystwyth yn cynnwys gwerthuso'r dyluniad presennol ac yna gwneud argymhellion i wella'r datrysiad optegol ar gyfer dyluniad cynnyrch newydd. Mae'r llun yn dangos y delweddau o wyau parasitiaid cyn (chwith) ac ar ôl argymhellion a wnaed gan CAFf (dde). Cyflawnodd y tîm welliant 3 cham yn y datrysiad yn ogystal â nodi cyfle i leihau costau eu synhwyrydd delwedd a gwella goleuo sampl.
Mae Prifysgol Aberystwyth a Techion nawr yn gweithio gyda’i gilydd i fynd â’r cydweithrediad hwn ymhellach, tu hwnt i’r rhaglen CAFf.