Prosesu Laser
Mae prosesu laser yn effeithio ar bob prif sector gan gynnwys:
Awyrofod a Modurol Solar a Ffotofoltäig
Electroneg ac Optoelectroneg Gwyddonol a Meddygol
Amaethyddiaeth a'r Amgylchedd Amddiffyn a Diogelwch
Mae ein tîm CAFf ym Mangor yn arbenigwyr ym maes delweddu ag eglurdeb o safon, yn ogystal â phrosesu laser - e.e. torri, weldio, ysgythru, gweadu â laser. Mae eu labordai yn gartref i ystod o laserau gwahanol, yn eu caniatáu nhw i deilwra'r paramedrau prosesu â laser i unrhyw ddeunydd yn ofalus.
Mae'r tîm CAFf wedi cydweithio ar brosesu laser ar gyfer deunydd megis ffilm polymer, papur, dur gwrthstaen a diemwnt.
Dan arweiniad Dr James Wang, mae'r tîm wedi arloesi dull ansawdd uchel newydd sy'n eu galluogi nhw i wneud marciau gyda laser i'r raddfa nanomedr wrth ddefnyddio'r un dechnoleg i ddelweddu'r marciau.
Mae defnyddiau penodol yn cynnwys:
- Torri gyda laser
- Marcio gyda laser
- Ysgythru gyda laser
- Weldio gyda laser
- Defnyddio laser i lanhau neu weadu arwyneb