Disgrifiad o'r Prosiect
Mae Grafmarine a Phrifysgol Bangor yn cydweithredu ar brosiect CPE ar gymwysiadau weldio laser. Yn ogystal, mae'r ymgysylltiad â CPE wedi arwain at gydweithrediad busnesau bach a chanolig ar draws Cymru.
Mae Grafmarine a Phrifysgol Bangor yn cydweithredu ar brosiect CPE ar gymwysiadau weldio laser. Yn ogystal, mae'r ymgysylltiad â CPE wedi arwain at gydweithrediad busnesau bach a chanolig ar draws Cymru.
“"Mae gweithio gyda'r tîm CPE wedi cynorthwyo Grafmarine i ail-werthuso ei brosesau gweithgynhyrchu gan ddefnyddio technoleg ffotoneg, gan arwain at gyflawni datblygiad cynnyrch gwell, cydweithrediad agosach yn y gadwyn gyflenwi gyda chyflenwyr busnesau bach a chanolig yng Nghymru a'r sylweddoliad bod arloesedd yn strategaeth greiddiol i'n twf"”
Martin Leigh (Rheolwr Gyfarwyddwr), Grafmarine
Mae Grafmarine yn fusnes micro wedi'i sefydlu yn yr adeilad Optig yn Llanelwy sy'n cydweithio ar draws sawl sefydliad academaidd yn y Deyrnas Unedig, mewn ymgais i lansio cynnyrch arloesol newydd yn y farchnad forol. Gyda chefnogaeth y tîm CPE ym Mangor a Phrifysgol De Cymru, maent wedi llwyddo i oresgyn y cyfyngiadau technegol cyfredol yn eu proses weithgynhyrchu gyfredol ac wedi manteisio ar Ffotoneg fel darparwr datrysiadau cryf.
O ganlyniad, ar hyn o bryd maent yn gweithio â'r tîm CPE ym Mangor a Phrifysgol De Cymru ar gymwysiadau weldio â Laser, gyda threialon posibl yn y diwydiant i ddechrau ym mis Ionawr 2020.
Yn ogystal, yn ystod y prosiect llwyddodd CPE i alluogi cydweithrediad ar draws busnesau bach a chanolig Cymru o fewn eu cadwyn gyflenwi drwy gyflwyno'r cwmni i gyswllt yn ne Cymru sy'n cynnig datrysiadau gwell o'i gymharu â'r cyflenwr blaenorol a oedd y tu allan i'r UE.