Disgrifiad o'r Prosiect
Mae Nutralight, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam yn cydweithio ar brosiect CPE i ddatblygu prototeip a phroses cynhyrchu swp ar gyfer system oleuadau LED ar gyfer garddwriaeth dan do.
Mae Nutralight, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam yn cydweithio ar brosiect CPE i ddatblygu prototeip a phroses cynhyrchu swp ar gyfer system oleuadau LED ar gyfer garddwriaeth dan do.
Mae Nutralight yn weithgynhyrchwr LED sy'n arbenigo mewn goleuadau clyfar, synhwyro a datrysiadau rheoli i'r farchnad arddwriaethol. Mae golau garddwriaethol clyfar yn farchnad sy'n tyfu'n gyflym ac yn rhan annatod o'r ffermydd fertigol hunangynhaliol a fydd yn chwyldroi'r diwydiant garddwriaeth.
Mae partneriaid CPE, sef Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam, yn gweithio gyda Nutralight i adeiladu a datblygu prototeip o uned oleuo ar gyfer tyfu planhigion bach megis mefus neu lysiau micro. Yn ogystal, mae'r prosiect yn cynnwys modelu optegol dyluniad adlewyrchu unigryw a bydd y pecyn gwaith terfynol yn ymchwilio opsiynau ar gyfer paratoi i'w gynhyrchu.